Lleoliad:
Fideo Gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 21 Ionawr 2021
Amser:
09.00 -
12.34
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11108
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Lynne Neagle AS (Cadeirydd) Hefin David AS Suzy Davies AS Siân Gwenllian AS Vikki Howells AS (yn lle Dawn Bowden AS) Laura Anne Jones AS |
Tystion: |
Kirsty Williams AS, Y Gweinidog Addysg Steve Davies, Llywodraeth Cymru Huw Morris, Llywodraeth Cymru Vaughan Gething AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg Julie Morgan AS, Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Claire Bennett, Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi, Cynllunio a Phartneriaethau Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru Albert Heaney, Llywodraeth Cymru Dr Heather Payne, Prif Swyddog Feddygol, Llywodraeth Cymru Tracey Breheny, Llywodraeth Cymru Steve Elliot, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Llinos Madeley (Clerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Sian Thomas (Ymchwilydd) Phil Boshier (Ymchwilydd) Sian Hughes (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, ond bod y cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv.
1.3 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Suzy Davies AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
1.4 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Dawn Bowden AS. Dirprwyodd Vikki Howells AS ar
ei rhan.
2 COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Addysg.
3 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22
3.1 Bu’r Pwyllgor yn craffu ar waith y Gweinidog Addysg mewn perthynas â Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22.
3.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu rhagor o wybodaeth am y materion a ganlyn:
- sut mae'r £29 miliwn ar gyfer y rhaglen 'Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau' wedi'i wario hyd yma ac wedi'i ddyrannu ar gyfer 2021 - 2022;
- manylion y newidiadau demograffig a ddisgwylir yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf mewn perthynas â'r cynnydd o £21.7 miliwn mewn cyllid 6ed Dosbarth ac Addysg Bellach.
3.3 Cytunodd y Pwyllgor y byddai'n mynd ar drywydd y ceisiadau hyn yn ei adroddiad ar y Gyllideb Ddrafft.
4 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22
4.1 Bu’r Pwyllgor yn craffu ar waith y Gweinidogion mewn perthynas â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22.
4.2 Cytunodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ddarparu nodyn ar y dangosyddion a ddefnyddir ar gyfer y fformiwla newydd i ddyrannu cyllid i fyrddau iechyd a sut y mae'n ystyried anghenion a nodweddion penodol y boblogaeth mewn gwahanol rannau o Gymru.
4.3 Cytunodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ddarparu nodyn am yr £8 miliwn a gafodd awdurdodau lleol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol a phlant o dan y gronfa caledi llywodraeth leol.
4.4 Cytunodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol hefyd i ddarparu adroddiad fframwaith canlyniadau traws-Lywodraethol i'r Pwyllgor sy'n ymwneud â'r grant Plant a Chymunedau, pan fydd ar gael.
3.3 Cytunodd y Pwyllgor y byddai'n mynd ar drywydd y ceisiadau hyn yn ei adroddiad ar y Gyllideb Ddrafft.
5 Papurau i’w nodi
5.1 Cafodd y
papurau eu nodi.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
6.1 Derbyniwyd y
cynnig.
7 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 - trafod y dystiolaeth
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiynau blaenorol.